Hafan | Cyfnod Darganfod | Alffa | Beta | Nodiadau wythnosol | Sioe Dangos a Dweud | Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru
<aside> 🏴 Read in English
</aside>
Mae “dangos a dweud” yn gyfarfod byr y mae timau Ystwyth yn ei wneud i ddangos y peth maen nhw wedi bod yn gweithio arno. Mae’n gyfle gwych i’r tîm gael adborth gan eraill, ac mae’n caniatáu i eraill nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â’r prosiect ddysgu beth sydd wedi bod yn digwydd ac i ofyn cwestiynau. Mae tryloywder yn elfen allweddol o unrhyw ddarpariaeth Ystwyth, ac mae hefyd yn cyd-fynd â safon “[Gweithio yn yr agored](https://gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru/adnoddau/safonau-gwasanaeth-digidol/?_gl=1*1eas9om*_ga*NzA0NTI5MjU0LjE2NTk2MjUxNTM.*_ga_HKYTNYNSKE*MTY2OTEzNTkzNi4xLjEuMTY2OTEzNTkzNi4wLjAuMA..)”
Yma gallwch ddarllen a gwylio ein sioe dangos a dweud (mae ein holl gyflwyniadau wedi'u hysgrifennu yn y Gymraeg a'r Saesneg, a'u cyflwyno yn Saesneg - os hoffech gael trawsgrifiad Cymraeg rhowch wybod i ni).
Yn ein sioe dangos a dweud gyntaf, cawsom ddiweddariad ar sut roedd y cyfnod darganfod yn mynd, y broses yr oeddem wedi'i dilyn, a'n canfyddiadau hyd yn hyn.
Gwefan CDPS - Sioe Dangos a Dweud - Tachwedd.pptx
Roedd ein hail sioe dangos a dweud yn gwbl ryngweithiol ac yn gyfle i ni gasglu adborth gan ddefnyddwyr mewnol ac allanol ar ein cynnwys a'n strwythur llywio. Gellir lawrlwytho'r canlyniadau isod.
Lawrlwythiad:
Sioe Dangos a Dweud 20_01_2023.xlsx
Sioe dangos a dweud gwefan 20/01/2023 - Mentimeter - Cyflwyniad Mentimeter